O! ddyfnderoedd iachawdwriaeth,
Dirgelwch mawr duwioldeb yw,
Duw y duwiau wedi ymddangos
Y'nghnawd a natur dynolryw:
Dyma'r Person a ddioddefodd
Yn ein lle digofaint llawn,
Nes i gyfiawnder weiddi, Gollwng
Ef yn rhydd, mi gefais iawn.
Dyma'r Brawd a anwyd ini;
Erbyn c'ledi a phob clwy';
Ffyddlawn ydyw, llawn tosturi,
Haeddai gael ei foli'n fwy:
Rhyddhâwr caethion, Meddyg cleifion,
Ffordd i Sîon union yw;
Ffynnon loyw, bywyd meirw,
Arch i gadw dyn yw Duw.
Ddedwydd fydd tragwyddol orffwys
O bob llafur yn y man,
Yng nghanol môr o ryfeddodau,
Heb un gwaelod byth na glan:
Caffael mwy fynediad helaeth
I drigfannau Tri yn Un;
Dwr i nofio heb fynd trwyddo,
Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.
[O! ddedwydd awr tragwyddol orffwys
Oddi wrth fy llafur yn fy rhan,
Ynghanol môr o ryfeddodau
Heb weled terfyn byth, na glan;
Mynediad helaeth byth i bara
I fewn trigfannau Tri yn Un;
Dwr i'w nofio heb fynd trwyddo,
Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.]
- - - - -
O! ddyfnderoedd iachawdwriaeth,
Dirgelwch mawr duwioldeb yw;
Duw y duwiau wedi ymddangos
Yn ngwael natur dynolryw:
Dyma'r Person a ddyoddefodd
Yn ein lle, ddigofaint llawn,
A chyfiawnder waeddodd "Gollwng
Ef yn rhydd, mi gefais Iawn."
Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymmod yn y gwaed,
Dyma noddfa i lofruddion,
Dyma i gleifion Feddyg rhad;
Dyma fan yn ymyl Duwdod
I bechadur wneyd ei nyth,
A chyfiawnder pur y nefoedd
Arno'n siriol wenu byth.
Ann Griffiths 1776-1805
Tonau [8787D]: gwelir: (Bydd) melys gofio y cyfammod Dedwydd fydd tragwyddol orphwys Dyma babell y cyfarfod Dyma Frawd a anwyd inni Fy enaid gwel y fan gorweddodd |
Oh depths of salvation!
It is the great mystery of godliness,
The God of the gods having appeared
In the flesh and nature of humankind!
Here is the person who has suffered
In our place full wrath,
Until righteousness shouts "Release
Him freely, I have received satisfaction."
Here is a Brother who was born to us
Against hardship and every ailment;
Faithful is he, full of mercy
Worthy of being praised more:
Freer of captives, Physician of the sick,
A direct way to Zion he is;
A bright spring, life of the dead,
An ark to save man is God.
Happy will be eternal rest
From all labour soon,
Among a sea of wonders,
Without any bottom ever nor shore:
To get evermore plenteous access
To the dwellings of the Three in One;
Water to swim in that is untraversed,
Man in God, and God in man.
[Oh happy hour of eternal rest
From my labour as my portion,
Among a sea of wonders
Without seeing an end ever, nor shore;
An ever-plenteous access to abide
Within the dwellings of the Three in One;
Water to swim in that is untraversed,
Man in God, and God in man.]
- - - - -
O the depths of salvation,
The great secret of godliness it is;
The God of gods has appeared
In the base nature of humankind:
Here is the Person who suffered
In our place, full wrath,
And righteousness which shouted "Set
Him free, I received Satisfaction."
Here is the tent of meeting,
Here is reconciliation in the blood,
Here is a refuge for man-slayers,
Here for the sick a free Physician;
Here is a place at the side of Godhead
For a sinner to make his nest,
And the pure righteousness of heaven
Upon us cheerfully smiling forever.
tr. 2011,17 Richard B Gillion
|
|